Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Rydw i’n gyflogwr ac mae rhaid i mi gynnig pensiwn

Ar sail yr wybodaeth y bu ichi ei gyflwyno, rydych chi, neu fyddwch chi, yn gyflogwr gyda staff y mae'n rhaid ichi eu cofrestru ar gynllun pensiwn. Mae eich dyletswyddau cofrestru awtomatig yn dechrau unwaith y byddwch chi'n cyflogi'ch aelod cyntaf o staff (dyddiad dechrau dyletswyddau).

Cofiwch, mae hi'n ddyletswydd gyfreithiol arnoch chi i gofrestru. Gall peidio â gwneud hynny olygu dirwy.

Dechrau rŵan er mwyn gofalu eich bod yn bodloni'ch dyletswyddau mewn pryd. Os nad ydych chi wedi sefydlu'ch cynllun pensiwn ymhen chwe wythnos o'ch dyddiad dechrau dyletswyddau, ewch i hwyr yn sefydlu'ch cynllun pensiwn.

Beth mae angen i chi ei wneud ac erbyn pryd?

1. Dewis cynllun pensiwn

Dewis cynllun pensiwn y mae modd ichi ei ddefnyddio gyda chofrestru awtomatig a chofrestru'ch staff arno.

Cofiwch wneud hyn cyn gynted â phosib gan mae'n debyg y gall fod yn broses hirfaith.

2. Darganfod pwy y dylech ei roi ar gynllun pensiwn

Darganfod pwy y dylech ei gofrestru ar gynllun pensiwn ar eich dyddiad dechrau dyletswyddau.

Cofiwch wneud hyn ar eich dyddiad dechrau dyletswyddau.


3. Ysgrifennwch at eich gweithwyr

Defnyddiwch ein llythyr templed i ysgrifennu at bob gweithiwr yn unigol i egluro wrthyn nhw sut mae ymrestru awtomatig yn berthnasol iddyn nhw.

Cofiwch wneud hyn ymhen 6 wythnos ar ôl eich dyddiad dechrau dyletswyddau.


4. Datganiad cydymffurfio

Defnyddiwch ein datganiad rhestr wirio cydymffurfiaeth (PDF, 304kb, 2 dudalen) i wneud yn siŵr bod gennych eich holl wybodaeth yn barod. Cofiwch wneud hyn erbyn eich dyddiad olaf i gyflwyno'r datganiad neu mae'n bosib y cewch chi ddirwy.

Cofiwch wneud hyn ymhen 5 mis ar ôl eich dyddiad dechrau dyletswyddau.


Ydych chi'n hwyr yn sefydlu'ch cynllun pensiwn?

Os nad ydych chi wedi sefydlu’ch cynllun pensiwn ymhen chwe wythnos o ddyddiad dechrau eich dyletswyddau, mae’n rhaid ichi ôl ddyddio unrhyw gyfraniadau y bu ichi eu methu. Darganfod beth sydd yn rhaid ichi ei wneud os ydych chi’n hwyr yn sefydlu’ch cynllun pensiwn..