Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Rhybuddion, hysbysiadau a thalu dirwyon

Mae dyletswyddau cyfreithiol penodol y mae'n rhaid i chi eu cyflawni ar gyfer cofrestru awtomatig. Chi, y cyflogwr, sy'n gyfrifol am eu bodloni, ac os na fyddwch yn cydymffurfio, gallwch wynebu camau gorfodi gan gynnwys hysbysiadau cydymffurfio, a hysbysiadau cosb (dirwyon).

Pwyntiau allweddol

  • Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn cydymffurfio? Gall y rhai nad ydynt yn cydymffurfio wynebu camau gorfodi yn unol â'n dull gweithredu sy'n seiliedig ar risg.
  • Os byddwch yn derbyn hysbysiad cosb, gallwch dalu'ch dirwy ar-lein neu drwy drosglwyddiad BACS.
  • Os ydych yn cydymffurfio'n hwyr neu os nad ydych yn cadw'r wybodaeth ddiweddaraf am eich cyfraniadau pensiwn, rydym yn disgwyl i chi ad-dalu unrhyw gyfraniadau a gollwyd i roi staff yn y sefyllfa y byddent wedi bod ynddi pe baech wedi cydymffurfio'n brydlon; byddai hyn yn cynnwys ôl-ddyddio cyfraniadau i'r diwrnod y bodlonodd eich aelod o staff y meini prawf oedran ac enillion i'w rhoi mewn cynllun am y tro cyntaf.
    • Wrth ôl-ddyddio cyfraniadau, rhaid i chi dalu'r holl gyfraniadau cyflogwr di-dâl a rhaid i'ch aelod o staff dalu eu cyfraniadau, oni bai eich bod yn dewis ei dalu ar eu rhan. Fel rhan o unrhyw gamau gorfodi, efallai y byddwn yn mynnu eich bod yn talu cyfraniadau eich aelod o staff yn ogystal â'ch cyfraniadau chi.
  • Gall methu â chadw'r cyfraniadau cywir i gynllun arwain at gosbau. Os na fyddwch yn talu'ch dirwy, gallwn adennill y ddyled drwy'r llysoedd.
  • Os cawsoch hysbysiad cosb, mae angen i chi gwblhau datganiad cydymffurfio o hyd. Os ydych wedi cwblhau datganiad o gydymffurfiad ar adeg cael cosb, mae angen i chi sicrhau eich bod wedi talu'r ddirwy neu wedi trefnu cynllun talu gyda ni.

Y cyfan sydd angen i chi ei wybod

Cydymffurfion hwyr ah dyletswyddau

Os ydych yn hwyr yn cydymffurfio â'ch dyletswyddau, neu os nad ydych yn eu deall, dylech ddweud wrthym amdano ar unwaith. Gallwn ddarparu cymorth i'ch galluogi i gydymffurfio.

Sut rydym yn ymchwilio i ddiffyg cydymffurfio

Mae gennym ystod o bwerau i'w defnyddio yn ein hymchwiliadau; cynhelir y rhain i'r safonau uchaf, gan sicrhau ein bod yn rheoleiddio gyda thegwch, tryloywder a chysondeb.

Sut rydym yn gorfodi

Os byddwch yn methu â chydymffurfio, gallwch wynebu camau gorfodi a allai gynnwys cyflwyno hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad cosb neu hyd yn oed erlyniad.

Gwneud cais am adolygiad

Os ydych yn credu na ddylech fod wedi cael hysbysiad cofrestru awtomatig, gallwch wneud cais i ni am adolygiad o fewn 28 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad.

Telir hysbysiad cosb cofrestru awtomatig

Darganfyddwch sut i dalu os ydych wedi derbyn dirwy. 
Os ydych yn cael trafferthion ariannol, efallai y bydd yn bosibl i ni drafod a chytuno ar gynllun talu.