Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Gwneud cais am adolygiad

Os ydych o'r farn na ddylech fod wedi derbyn hysbysiad yna gallwch apelio.

I apelio yn erbyn hysbysiad, y cam cyntaf yw gwneud cais i ni am adolygiad.

Mae'r dudalen hon yn esbonio'r broses a beth i'w ddisgwyl gennym. Rydym hefyd yn rhoi gwybod i chi ym mha amgylchiadau y bydd hi'n annhebygol i adolygiad fod yn llwyddiannus a beth i'w wneud os ydych yn anghytuno a phenderfyniad ein hadolygiad.

Pa fath o hysbysiadau all gael eu hadolygu?

Gallwch wneud cais am adolygiad os ydych wedi derbyn un neu ragor o'r hysbysiadau neu gosbau canlynol:

  • hysbysiad cydymffurfio
  • hysbysiad cyfraniadau heb eu talu
  • hysbysiad cosb benodedig
  • hysbysiad cosb gynyddol
  • hysbysiad cydymffurfio trydydd person
  • hysbysiad cydymffurfio ymddygiad recriwtio gwaharddedig
  • hysbysiad cosb ymddygiad recriwtio gwaharddedig

Sut i wneud cais am adolygiad

Gwneud cais am adolygiad ar-lein

Rhaid gneud cais o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad ar yr hysbysiad.

Os ydych yn gwneud cais wedi 28 diwrnod bydd angen dweud wrthym pam. Byddwn yn ystyried y rheswm tros yr oedi a'r wybodaeth yr ydych wedi ei ddarparu ac yn penderfynu os, mewn achosion arbennig, y gwnawn ystyried eich cais am adolygiad.

Pwy all wneud cais?

Dim ond yr unigolyn neu gorff a dderbyniodd yr hysbysiad gaiff wneud cais am adolygiad, neu rywrai sydd wedi eu hawdurdodi i weithredu ar eu rhan.

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei ddarparu?

Dim ond os yw'n cynnwys esboniad o pam yn eich barn chi na ddylech fod wedi cael hysbysiad y byddwn yn derbyn cais am adolygiad. Os oes gennych dystiolaeth i gefnogi'r hyn rydych yn ei ddweud, byddwch yn siŵr i'w gynnwys gyda'ch cais.

Pryd fydd cais adolygiad yn debygol o fod yn llwyddiannus?

Fe wnawn ddiddymu'r hysbysiad os gallwch brofi nad yw dyletswyddau'r cyflogwr yn berthnasol i chi, eich bod wedi cydymffurfio ar amser, neu fod esgus rhesymol genych dros beidio cydymffurfio.

Pwy sydd heb ddyletswyddau cyflogwr?

Ni fydd dyletswyddau cyflogwyr yn berthnasol os (rhaid i chi roi gwybod i ni am yr amgylchiadau hyn):

  • ydych wedi peidio â gwerthu
  • ydych yn werthwr unigol neu'n bartneriaeth heb staff yn gweithio i chi
  • ydych yn gwmni un person
  • nad oes gan eich cwmni staff heblaw'r cyfarwyddwyr, ac nad oes gan fwy nag un cyfarwyddwr gytundeb cyflogaeth

Beth sy'n digwydd nesaf

Byddwn yn edrych ar eich cais ac yn penderfynu p'un ai i gynnal adolygiad ai peidio. Os benderfynwn beidio, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio pam.

Os benderfynwn gynnal adolygiad, byddwn yn edych ar y wybodaeth a gawsom genych ac yn gwneud un o'r canlynol gyda'r hysbysiad:

  • ei gadarnhau - cynnal yr hysbysiad, ac os oes dirwy bydd rhaid i chi ei thalu
  • ei ddiddymu - galw'r hysbysiad yn ôl, ac ni fydd rhaid i chi dalu unrhyw ddirwy
  • ei amrywio - newid yr hysbysiad, er enghraifft ehangu'r terfyn amser ar gyfer cydymffurfio neu dalu
  • ei gyfnewid - rhoddir hysbysiad gwahanol yn ei le, a bydd rhaid i chi gydymffurfio a hwnnw

Beth os nad wyf yn cytuno a phenderfyniad yr adolygiad?

Os nad ydych yn cytuno a'r penderfyniad (gan gynnwys penderfyniad i beidio cynnal adolygiad) gallwch apelio i Dribiwnlys Haen Gyntaf y Siambr Reoleiddio Cyffredinol. Mae hwn yn dribiwnlys annibynnol arwahan i'r Rheoleiddiwr Pensiynau. Dim ond ynglŷn ar hysbysiadau canlynol y gallwch apelio i'r tribiwnlys:

  • hysbysiad cosb benodedig
  • hysbysiad cosb gynyddol
  • hysbysiad cosb ymddygiad recriwtio gwaharddedig

Mae'r tribiwnlys wedi datgan nad ydynt am dderbyn apêl os gwnaethoch gais am adolygiad tu hwnt i'r terfyn 28 diwrnod a'n bod wedi penderfynu peidio cynnal un.

Darganfod sut i wneud cais i'r tribiwnlys.