Efallai y bydd eich staff yn gofyn i chi am gyngor wrth wneud dewisiadau pwysig am eu hymddeoliad.
Er nad oes gofyniad cyfreithiol i gyflogwyr ddarparu cyngor ar ymddeoliad, gallech ddewis darparu’ch staff â mynediad at gyngor ariannol, neu helpu gyda chost ceisio gyngor.
Pwyntiau allweddol
- Mae angen i'r bobl sy'n rhedeg eich cynllun pensiwn roi gwybodaeth i aelodau eich cynllun pensiwn am eu hopsiynau wrth ymddeol, a dweud wrthynt ble y gallant fynd am gyngor annibynnol pellach ar ymddeol.
Meddwl am ymddeol
Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn cyfraniadau diffiniedig (DC) yn ysgrifennu at eu haelodau hyd at bum mlynedd cyn iddynt ddisgwyl iddynt ymddeol. Gall eich staff wirio eu hincwm ymddeol posibl ar wefan HelpwrArian a gofyn am amcangyfrif o'u Pensiwn y Wladwriaeth ar y wefan GOV.UK.
Os yw eich staff yn ceisio olrhain pensiwn gweithle blaenorol gallant gysylltu â'r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau – gwasanaeth am ddim gan y llywodraeth ar wefan GOV.UK i helpu i ddod o hyd i bensiynau coll.
Opsiynau a phenderfyniadau ymddeol
Rhaid i'ch cynllun pensiwn anfon gwybodaeth at aelodau am eu hopsiynau a'r penderfyniadau y mae angen iddynt eu gwneud. Mae hyn yn cynnwys dweud wrth aelodau am Pension Wise, gwasanaeth di-dâl a diduedd y llywodraeth a fydd yn eu helpu i ddeall eu dewisiadau.
Bydd angen i'r aelod benderfynu:
- p'un a ydynt am ymddeol yn awr neu'n ddiweddarach
- pa un o'r opsiynau ymddeol y maent am ei ddewis
- beth i'w wneud os mai dim ond cronfa bensiwn fach sydd ganddynt
- beth i'w wneud os oes ganddynt fwy nag un gronfa bensiwn
Dewisiadau ymddeol
Mae aelodau o'ch cynllun yn debygol o fod â gwahanol opsiynau ar gyfer eu cronfa bensiwn, naill ai ar gael yn uniongyrchol o'r cynllun neu wrth drosglwyddo i gynllun gwahanol. Gallant:
- gadw eu cronfa bensiwn lle mae yn awr
- cael incwm gwarantedig am oes (a elwir yn 'flwydd-dal')
- cael incwm ymddeol hyblyg (a elwir yn 'dynnu i lawr mynediad hyblyg')
- cymryd eu cronfa bensiwn fel nifer o gyfandaliadau ar wahanol adegau
- gymryd eu cronfa bensiwn gyfan ar yr un tro
- dewis mwy nag un opsiwn a'u cymysgu
I gael rhagor o wybodaeth, gweler y canllawiau ar opsiynau ar gyfer defnyddio eich pensiwn DC ar wefan HelpwrArian.
Cyngor pellach i'ch staff
I ddod o hyd i gynghorydd ymddeol, defnyddiwch y Cyfeiriadur cynghorwyr ymddeol HelpwrArian.
Cyfeiriwch eich staff at wybodaeth am sut I osgoi sgamiau pensiwn.