Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Sgript fideo beth ydy cofrestru awtomatig

P'un ai ydych chi'n bensaer, yn werthwr papurau newydd, yn cyflogi cynorthwyydd gofal personol neu famaeth - os ydych chi'n cyflogi o leiaf un person, rydych yn gyflogwr ac mae'n rhaid ichi gyflawni dyletswyddau cofrestru awtomatig o dan ddeddf pensiwn yn y gwaith.

Bydd eich dyletswyddau cyfreithiol ar gyfer cofrestru awtomatig yn dechrau ar y diwrnod cyntaf y bu i'ch aelod cyntaf o staff ddechrau gweithio ichi - dyma'ch dyddiad dechrau dyletswyddau.

Mae tasgau y bydd angen ichi eu cyflawni ar unwaith er mwyn bodloni eich dyletswyddau ar amser.

Yn gyntaf, bydd angen ichi asesu'ch staff i weld a oedden nhw'n bodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion i'w cofrestru ar gynllun pensiwn ar eich dyddiad dechrau dyletswyddau. Os oedden nhw'n bodloni'r meini prawf, mae'n rhaid ichi eu cofrestru ar gynllun pensiwn a chyfrannu tuag ato. Hyd yn oed os nad oes gennych chi staff i'w cofrestru ar gynllun pensiwn mi fydd dal angen ichi gyflawni dyletswyddau.

Yna, bydd yn rhaid ichi ysgrifennu at eich holl aelodau o staff, ymhen chwe wythnos o'ch dyddiad dechrau dyletswyddau, er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw sut mae cofrestru awtomatig yn berthnasol iddyn nhw. Os ydy hi dros chwe wythnos ar ôl eich dyddiad dechrau dyletswyddau, bydd angen ichi wneud hyn ar unwaith.

Yn olaf, mae'n rhaid ichi gwblhau datganiad cydymffurfio ar y we i roi gwybod inni sut y bu ichi fodloni eich dyletswyddau cyfreithiol. Mae'n rhaid ichi wneud hyn ymhen pum mis o'ch dyddiad dechrau dyletswyddau.

Defnyddiwch yr adnodd ar-lein ar wefan Y Rheoleiddiwr Pensiynau er mwyn canfod beth sydd angen ichi ei wneud ac i wybod mwy am eich dyletswyddau parhaus.