Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Opsiynau ymddeol ar gyfer aelodau DC

Efallai y bydd eich staff yn gofyn i chi am gyngor wrth wneud dewisiadau pwysig am eu hymddeoliad.

Er nad oes gofyniad cyfreithiol i gyflogwyr ddarparu cyngor ar ymddeoliad, gallech ddewis darparu’ch staff â mynediad at gyngor ariannol, neu helpu gyda chost ceisio gyngor.

Pwyntiau allweddol

  • Mae angen i'r bobl sy'n rhedeg eich cynllun pensiwn roi gwybodaeth i aelodau eich cynllun pensiwn am eu hopsiynau wrth ymddeol, a dweud wrthynt ble y gallant fynd am gyngor annibynnol pellach ar ymddeol.

Meddwl am ymddeol

Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn cyfraniadau diffiniedig (DC) yn ysgrifennu at eu haelodau hyd at bum mlynedd cyn iddynt ddisgwyl iddynt ymddeol. Gall eich staff wirio eu hincwm ymddeol posibl ar wefan HelpwrArian a gofyn am amcangyfrif o'u Pensiwn y Wladwriaeth ar y wefan GOV.UK.

Os yw eich staff yn ceisio olrhain pensiwn gweithle blaenorol gallant gysylltu â'r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau – gwasanaeth am ddim gan y llywodraeth ar wefan GOV.UK i helpu i ddod o hyd i bensiynau coll.

Opsiynau a phenderfyniadau ymddeol

Rhaid i'ch cynllun pensiwn anfon gwybodaeth at aelodau am eu hopsiynau a'r penderfyniadau y mae angen iddynt eu gwneud. Mae hyn yn cynnwys dweud wrth aelodau am Pension Wise, gwasanaeth di-dâl a diduedd y llywodraeth a fydd yn eu helpu i ddeall eu dewisiadau.

Bydd angen i'r aelod benderfynu:

  • p'un a ydynt am ymddeol yn awr neu'n ddiweddarach
  • pa un o'r opsiynau ymddeol y maent am ei ddewis
  • beth i'w wneud os mai dim ond cronfa bensiwn fach sydd ganddynt
  • beth i'w wneud os oes ganddynt fwy nag un gronfa bensiwn

Dewisiadau ymddeol

Mae aelodau o'ch cynllun yn debygol o fod â gwahanol opsiynau ar gyfer eu cronfa bensiwn, naill ai ar gael yn uniongyrchol o'r cynllun neu wrth drosglwyddo i gynllun gwahanol. Gallant:

  • gadw eu cronfa bensiwn lle mae yn awr
  • cael incwm gwarantedig am oes (a elwir yn 'flwydd-dal')
  • cael incwm ymddeol hyblyg (a elwir yn 'dynnu i lawr mynediad hyblyg')
  • cymryd eu cronfa bensiwn fel nifer o gyfandaliadau ar wahanol adegau
  • gymryd eu cronfa bensiwn gyfan ar yr un tro
  • dewis mwy nag un opsiwn a'u cymysgu

I gael rhagor o wybodaeth, gweler y canllawiau ar opsiynau ar gyfer defnyddio eich pensiwn DC ar wefan HelpwrArian.

Cyngor pellach i'ch staff

I ddod o hyd i gynghorydd ymddeol, defnyddiwch y Cyfeiriadur cynghorwyr ymddeol HelpwrArian.

Cyfeiriwch eich staff at wybodaeth am sut I osgoi sgamiau pensiwn.