Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Cyfraniadau a chyllid

Mae angen i chi dalu’r cyfraniadau priodol mewn pryd i’ch cynllun pensiwn staff. Os na fyddwch, mae perygl y byddwch yn cael dirwy gan y rheolydd.

Pwyntiau allweddol

  • Bydd angen i chi ddidynnu cyfraniadau o gyflogau eich staff a thalu’r rhain a’ch cyfraniadau i’r cynllun yn brydlon a chywir.
  • Wedi ichi sefydlu’ch cynllun, os ydych chi’n ansicr beth i’w dalu a phryd, cysylltwch â darparwr neu ymddiriedolwyr eich cynllun pensiwn.
  • Os nad ydych yn cyfrannu’n briodol i gynllun pensiwn eich staff neu yn brydlon, mae perygl y bydd rhaid i chi dalu dirwy i’r rheolydd.
  • Mae cofnodion a gwybodaeth taliadau penodol y mae'n rhaid i chi eu cadw.

Faint sy'n rhaid i chi ei dalu

Mae’r swm mae’n rhaid i chi ei gyfrannu i’r cynllun pensiwn wedi ei bennu gan reolau’r cynllun. Fodd bynnag, os ydych chi’n defnyddio’r cynllun ar gyfer cofrestru awtomatig, mae isafswm cyfraniadau y mae’n rhaid i chi eu talu.

Dangosir isafswm y cyfraniadau y mae’n rhaid i chi eu talu i’ch cynllun pensiwn staff yn y tabl isod – ar hyn o bryd maent yn gyfanswm cyfraniad o 2% gydag o leiaf 1% o gyfraniad gan gyflogwyr.

Mae cyfraniadau isafswm yn cael eu cyflwyno’n raddol gydag amser. Fel arfer byddwch yn talu cyfraniadau cynllun pensiwn naill ai fel swm sefydlog neu’n seiliedig ar ganran o enillion.

Dyddiad
Isafswm gyfraniad y cyflogwr
Cyfanswm isafswm cyfraniad 
Dyddiad gweithredu’r cyflogwr i 05/04/18
1% 2% (yn cynnwys 1% cyfraniad staff)
06/04/18 - 05/04/19
2% 5% (yn cynnwys 1% cyfraniad staff)
06/04/19 ymlaen
3% 8%  (yn cynnwys 1% cyfraniad staff)

Eich isafswm cyfraniad cyflogwr

Gallwch ddefnyddio ein hofferyn syml i gyfrifo eich isafswm cyfraniad ar gyfer pob aelod o staff y bydd angen i chi ei gofrestru’n awtomatig.

Pryd fydd yn rhaid i chi dalu eich cyfraniadau

Mae angen i chi dalu eich cyfraniadau i’ch cynllun pensiwn staff yn brydlon. Mae hyn yn cynnwys cyfrifo a didynnu cyfraniadau o gyflogau’ch staff. Rhaid i chi gytuno ar ddyddiadau dyledus ar gyfer talu cyfraniadau i’r cynllun gyda’ch ymddiriedolwr neu ddarparwr.

Fodd bynnag, mae’r gyfraith yn gofyn pan fyddwch yn didynnu cyfraniadau o gyflog eich staff, rhaid i chi dalu’r rhain i’ch cynllun pensiwn staff yn ddim hwyrach na’r 22ain niwrnod (19eg os ydych chi’n talu trwy siec) y mis nesaf.

Mae rheolau arbennig ar gyfer y didyniad cyntaf o gyfraniadau ar gofrestru awtomatig dan y Ddeddf Pensiynau 2008.
Mae perygl y byddwch yn cael dirwy gan y rheolydd os nad ydych yn talu’n brydlon.

Gallwch gytuno ar ddyddiad cynharach i dalu eich cyfraniadau cyflogwr gyda’ch ymddiriedolwyr neu weinyddwyr. Fodd bynnag, mae’n haws os ydych yn talu eich cyfraniadau ar yr un diwrnod â chyfraniadau eich staff.

Canllaw cyflym i dalu cyfraniadau i gynlluniau pensiwn galwedigaethol personol a DC (PDF, 62kb, 6 tudalen)

Dysgwch sut i sefydlu eich cynllun yn gywir a deall pa gyfraniadau mae’n rhaid i chi a’ch staff eu talu ac erbyn pryd dylid eu talu.

Cyfraniadau a chyllid

Cadw gwybodaeth a chofnodion talu

Gwybodaeth anghywir neu hen ffasiwn yw prif achos methiant talu ac anghydfodau rhwng cyflogwr a'u darparwr cynllun neu ymddiriedolwyr.

Rhaid i chi gadw gwybodaeth a chofnodion ynghylch pa gyfraniadau rydych chi'n eu talu i'ch cynllun pensiwn am chwe blynedd (yn y rhan fwyaf o achosion). Bydd hyn yn eich helpu i sicrhau bod y cyfraniadau cywir yn cael eu talu ac yn darparu tystiolaeth os oes anghydfod.

Ymhlith y cofnodion y dylech eu cadw mae:

  • enillion gros staff
  • cyfraniadau cynllun pensiwn staff a chyflogwyr sydd i'w talu (ac os yw'n wahanol yr union symiau a dalwyd)

Mae angen i chi gadw gwybodaeth am gyfraniadau ac aelodaeth yn gyfredol a chyfleu unrhyw newidiadau i ddarparwr neu ymddiriedolwyr eich cynllun pensiwn.

Cyfeiriwch at ein gwybodaeth am ddyletswyddau cadw cofnodion i gyflogwyr am ragor o fanylion.

Terfynau cronfa bensiwn

Mae terfynau i faint ellir ei gadw mewn cronfa bensiwn a’r swm y gellir ei gyfrannu pob blwyddyn ar gyfer aelod heb orfodi taliadau treth penodol.

Ewch i ddeall y lwfans blynyddol ar gyfer cynlluniau pensiwn ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Os nad ydych yn siwr beth i’w dalu a phryd, cysylltwch â’ch darparwr cynllun pensiwn neu ymddiriedolwyr.

Cyllid buddion wedi'u diffinio

Os ydych chi’n rhedeg cynllun buddion wedi’u diffinio (DB), mae angen i chi fod yn ymwybodol bod angen i’r rhan fwyaf o gynlluniau yn darparu unrhyw fuddion wedi’u diffinio fodloni amcan ariannu statudol, sy’n asesu’r lefelau gofynnol o gyllid ar gyfer cynllun.

Fel cyflogwr, bydd angen i chi weithio’n agos gydag ymddiriedolwyr i sicrhau bod eich cynllun yn bodloni’r gofynion ariannu hyn.

Yn benodol, bydd angen i chi gytuno gyda’r ymddiriedolwyr:

  • ar ddatganiad o egwyddorion ariannu
  • ar atodlen o gyfraniadau sy’n gyson â’r egwyddorion hyn

Ble na fodlonir yr amcan ariannu statudol, rhaid i chi gytuno ar gynllun adfer yn sefydlu’r camau i’w cymryd i unioni pethau.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i ariannu’ch cynllun â buddion diffiniedig.

Canllaw manwl

Mae ein canllaw manwl wedi ei anelu at gynghorwyr proffesiynol a chyflogwyr sydd â gweithwyr proffesiynol mewnol.

9. Keeping records