Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Cau cynllun

Gwybodaeth i gyflogwyr ar gau cynllun pensiwn i aelodau newydd neu groniadau yn y dyfodol, a chau cynllun.

Fel cyflogwr, os ydych chi’n bwriadu cau’r cynllun naill ai i aelodau newydd neu groniadau’r dyfodol, neu ddirwyn y cynllun i ben, bydd angen i chi ddarparu'r holl wybodaeth berthnasol i’r ymddiriedolwyr neu reolwyr eich cynllun a sicrhau cydymffurfiad â’r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Pwyntiau allweddol

  • Os ydych chi'n ystyried cau cynllun pensiwn naill ai i aelodau newydd neu i groniadau’r dyfodol, dylech drafod hyn gyda’r ymddiriedolwyr neu reolwyr eich cynllun pensiwn i ddeall unrhyw newidiadau allai fod yn ofynnol i weithred yr ymddiriedolaeth a rheolau’r cynllun i weithredu’r newid hwn ac, os yn berthnasol, gynnal ymgynghoriad ag aelodau’r cynllun a effeithir.
  • Os ydych chi’n dirwyn cynllun budd diffiniedig (DB) i ben, mae angen i chi ddeall beth yw’r goblygiadau ac a fydd dyled dan adran 75 y Ddeddf Pensiynau 1995 (dyled adran 75) yn daladwy.

Cau cynllun i aelodau newydd neu groniadau'r dyfodol

Os ydych chi’n ystyried cau eich cynllun i aelodau newydd, neu i groniadau pensiwn pellach, p’un a yw'n gynllun DB neu gyfraniad diffiniedig (DC), dylid trafod y rhain gyda’r ymddiriedolwyr neu reolwyr eich cynllun pensiwn.

Efallai y bydd gweithred ymddiriedolaeth y cynllun angen ei addasu i weithredu’r newid hwn ac, yn ddibynnol ar faint o gyflogeion sydd gennych chi, fel y cyflogwr efallai y bydd hefyd angen i chi ymgynghori â chyflogeion a effeithir cyn gwneud y newidiadau hyn gan y’u hystyrir i fod yn ‘newidiadau a restrir’ dan y rheoliadau perthnasol.

Sefydlir dyletswydd y cyflogwr i ymgynghori yn adrannau 259-261 y Ddeddf Pensiynau 2004, y Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol a Phersonol (Ymgynghoriad gan Gyflogwyr ac Addasiad Amrywiol) fel y’i diwygiwyd, a’r Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Ymgynghoriad gan Gyflogwyr) (Addasiad ar gyfer Cynlluniau Amlgyflogwr) 2006.

Am wybodaeth fanylach ynghylch y rheoliadau a chydymffurfiad â nhw, cyfeiriwch at ganllaw yr Adran Waith a Phensiynau (DWP) ar wefan yr Archifau Cenedlaethol.

Dirwyn cynllun i ben

Gall dirwyn cynllun pensiwn i ben fod yn broses gymhleth sy’n amrywio o gynllun i gynllun.

Os ydych yn ystyried dirwyn y cynllun pensiwn i ben, dylech drafod hyn gyda’r ymddiriedolwyr neu reolwyr y cynllun, sy’n gyfrifol am hysbysu’r Rheoleiddiwr Pensiynau o’r broses ddirwyn i ben a sicrhau yr ymgymerir â hi mewn modd trefnus.

I gael rhagor o wybodaeth gweler ein cyfarwyddyd rheoleiddiol dirwyn i ben (yn Saesneg unig).

Yn achos cynllun pensiwn aml-gyflogwr, gallai gweithred ymddiriedolaeth a rheolau cynllun ddarparu ar gyfer dirwyn i ben yn rhannol pan yw cyflogwr yn gadael y cynllun, acefallai bydd angen cyngor cyfreithiol i benderfynu’r effaith o wneud hyn, yn arbennig os oes gennych gynllun DB.

Ar gyfer cynllun DB, un o’r canlyniadau o gychwyn dirwyn i ben yw y gallai dyled adran 75 ddod yn ddyledus gan y cyflogwr neu gyflogwyr os oes gan y cynllun ddiffyg. Fel arfer mae dyled adran 75 yn golygu’r swm y bydd yn ei gostio’r cynllun i brynu blwydd-daliadau i sicrhau buddion aelodau’n llawn. Wedi i gynllun ddechrau dirwyn i ben, fel arfer mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr sicrhau y cyfrifir dyledion adran 75 a cheisio casglu’r dyledion hynny.