Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Rydw i’n gyflogwr, does dim rhaid i mi gynnig pensiwn rŵan

Ar sail y gwybodaeth y bu ichi ei gynnig, mae dal angen ichi gwblhau'r camau isod. Mae eich dyletswyddau cofrestru awtomatig yn dechrau pan fyddwch yn cyflogi'ch aelod cyntaf o staff (dyddiad dechrau dyletswyddau).

Os nad oes gennych chi staff i'w cofrestru ar gynllun pensiwn ar hyn o bryd, mi fydd gennych chi ddyletswyddau eraill beth bynnag fel cwblhau eich datganiad cydymffurfio. Cofiwch, mae hi'n ddyletswydd gyfreithiol arnoch chi i gofrestru. Gall peidio â gwneud hynny olygu dirwy. Mi fydd hefyd angen ichi fonitro amgylchiadau eich staff rhag ofn y bydd angen ichi gofrestru unrhyw staff ar gynllun yn y dyfodol.

Beth mae angen i chi ei wneud ac erbyn pryd?

1. Gwirio nad oes gennych chi staff i'w cofrestru ar gynllun pensiwn

Mae'n rhaid ichi gyfrifo faint mae pob aelod o staff yn ei ennill a faint oed oedden nhw ar eich dyddiad dechrau dyletswyddau. Diben hyn ydy gwirio a oes angen eu cofrestru ar gynllun ai pheidio.

Cofiwch wneud hyn ar eich dyddiad dechrau dyletswyddau

2. Ysgrifennwch at eich gweithwyr

Mae'n rhaid ichi ysgrifennu at bob aelod o staff ymhen chwech wythnos o'ch dyddiad dechrau dyletswyddau. Mae gennym ni dempledi llythyrau y gallwch eu diwygio ar gyfer hyn.

Cofiwch wneud hyn ymhen 6 wythnos o'ch dyddiad dechrau dyletswyddau.

3. Datganiad cydymffurfio

Cwblhewch eich datganiad cydymffurfio er mwyn rhoi gwybod inni sut y bu ichi gydymffurfio gyda'ch dyletswyddau cofrestru awtomatig. Cofiwch wneud hyn erbyn dyddiad cau eich datganiad neu mae'n bosib y cewch chi ddirwy.

Cofiwch wneud hyn ymhen 5 mis ar ôl eich dyddiad dechrau dyletswyddau.

Beth sydd yn rhaid imi ei wneud os ydy fy amgylchiadau yn newid?

Mae'n rhaid ichi fonitro oedran eich staff a'r cyfanswm rydych yn eu talu (gan gynnwys staff newydd) er mwyn gweld a oes angen ichi gofrestru unrhyw un ohonyn nhw ar gynllun pensiwn. Darllen mwy am eich dyletswyddau parhaus.