Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Cwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio erbyn eich dyddiad terfyn

Rhaid i chi lenwi a chyflwyno eich ffurflen ailddatganiad cydymffurfio cyn pen pum mis iddi fod yn dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau neu’ch dyddiad gweithredu cofrestru awtomatig. Ni fydd eich dyddiad terfyn ar gyfer ail-ddatgan ddim yn newid os ydych chi'n dewis dyddiad arall ar gyfer asesu'ch staff.

Mae'r ail-ddatganiad cydymffurfio yn ffurflen ar-lein ichi roi gwybod inni sut y bu ichi fodloni'ch dyletswyddau cyfreithiol.

Hyd yn oed oes os rhywun arall (aelod o staff neu gynghorydd busnes) wedi eich helpu gyda'ch dyletswyddau, ac o bosib yn cwblhau'r ail-ddatganiad ichi, eich dyletswydd gyfreithiol chi fel y cyflogwr ydy gofalu caiff yr ail-ddatganiad ei gwblhau mewn pryd a bod yr wybodaeth yn gywir. Os nad ydych chi'n cydymffurfio gyda hyn, mae'n bosib y cewch chi ddirwyon.

Os oes gennych chi'r holl wybodaeth berthnasol i law, gall gymryd cyn lleied â 15 munud ichi gwblhau eich ail-ddatganiad.

Unwaith ichi gwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio fe fydd gennych chi ddyletswyddau parhaus eraill ar ran eich staff fydd angen eu cwblhau.

Dechrau eich ail-ddatganiad rŵan

Er bod gennych chi bum mis i gwblhau eich ail-ddatganiad, rydym yn argymell eich bod yn ei gwblhau cyn gynted â phosib wedi iddi fod yn dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau neu’ch dyddiad gweithredu cofrestru awtomatig.

Dechrau arni