Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Dyletswyddau parhaus ar ôl ailgofrestru

Unwaith ichi ailgofrestru eich staff, fe fydd gennych chi ddyletswyddau parhaus. Yna pob tair blynedd bydd gofyn ichi ailgofrestru staff penodol eto.

Bob tro y byddwch yn talu eich gweithwyr, dylech gwblhau’r tasgau canlynol:

Monitro oedran a chyflog eich gweithwyr

Mae rhaid i chi fonitro oedran a chyflog eich gweithwyr (yn cynnwys y rhai sydd newydd ddechrau) er mwyn gweld a oes angen i chi eu rhoi ar gynllun pensiwn. Mae rhaid i chi eu rhoi ar gynllun pensiwn ac ysgrifennu atyn nhw o fewn chwe wythnos o’r diwrnod y maen nhw’n dod yn gymmwys o ran oedran a chyflog.

Os oes gennych chi unrhyw weithwyr sydd:

  • rhwng 22 oed ac oedran pensiwn y wlad*
  • ac yn ennill dros £10,000 y flwyddyn, £833 y mis neu £192 yr wythnos

Mae rhaid i chi eu rhoi ar gynllun pensiwn ac mae rhaid i’r ddau ohonoch dalu cyfraniadau ato.

*Os ydych yn ansicr o oedran pensiwn y wlad, defnyddiwch y Cyfrifydd Pensiwn y Wlad.

Trefnu ceisiadau am gael ymuno â neu adael eich cynllun

Os oes unrhyw weithiwr yn gofyn am gael gadael cynllun pensiwn (optio allan) o fewn mis o'r ail-cofrestru, mae angen i chi stopio cymryd arian o’i gyflog a threfnu ad-daliad llawn o’r cyfanswm sydd wedi ei dalu. Fe fydd rhaid gwneud hyn o fewn mis o’r cais am adael.

Os oes unrhyw weithiwr yn ysgrifennu atoch yn gofyn am gael ymuno â’ch cynllun, fe fydd rhaid i chi ei roi ar y cynllun o fewn mis o’r adeg rydych yn derbyn y cais.

Fe fydd rhaid i chi gyfrannu at y cynllun pensiwn os ydyn nhw:

  • rhwng 16 a 74 oed
  • ac yn ennill llai na o leiaf £520 y mis neu £120 yr wythnos.

Er mwyn darganfod faint y bydd rhaid i chi ei dalu, dylech holi darparwr eich cynllun pensiwn.

Cadw cofnod

Mae rhaid i chi gadw cofnod o sut rydych wedi cyflawni eich dyletswyddau cyfreithiol, yn cynnwys:

  • enw a chyfeiriad y bobl rydych yn eu rhoi ar gynllun pensiwn
  • cofnodion sy’n dangos pryd y talwyd cyfraniadau i’r cynllun pensiwn
  • unrhyw geisiadau am gael ymuno â neu adael eich cynllun pensiwn
  • rhif cyfeirnod eich cynllun pensiwn neu rif cofrestru

Mae rhaid i chi gadw’r cofnodion yma am chwe blynedd oni bai am geisiadau am gael gadael y cynllun, mae rhaid cadw’r rhain am bedair blynedd.

Parhau i dalu cyfraniadau

Unwaith ichi sefydlu cynllun pensiwn a chofrestru eich staff cymwys arno, bydd angen ichi barhau gyda'ch dyletswyddau cyfreithiol. Bydd angen ichi barhau i gyfrannu taliadau dyledus i'r cynllun pob tro byddwch yn cwblhau'r broses cyflogres. Rydym yn monitro'r cyfraniadau caiff eu cyfrannu tuag at bensiynau'r gweithle ac yn medru gweld os na chaiff taliadau dyledus eu cyfrannu at gynllun cofrestru awtomatig eich staff. Byddwn yn gweithredu os byddwch yn methu â chydymffurfio gyda'ch dyletswyddau cyfreithiol parhaus ac mae'n bosib y bydd disgwyl ichi ôl-ddyddio taliadau heb eu talu.

Eich camau nesaf

Pob tair blynedd bydd gofyn ichi ailgofrestru staff penodol. Byddwn yn ysgrifennu atoch yn egluro beth sydd angen ichi ei wneud ac erbyn pryd.

Gofalwch eich bod yn diweddaru eich manylion cyswllt er mwyn inni anfon llythyr at y person cywir am eich dyletswyddau parhaus a dyletswyddau ailgofrestru. Gallwch ddiweddaru eich manylion cyswllt ar-lein. Defnyddiwch ein ffurflen enwebu gyswllt i ddiweddaru eich manylion cyswllt neu i gofrestru ar gyfer ein rhybuddion e-bost.