Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Telerau ac amodau

Y Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR), yw rheolwr y wefan, a gall wneud newidiadau i gynnwys y wefan ar unrhyw adeg heb rybudd.

Drwy gyrchu gwasanaethau ar-lein TPR rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan ein telerau ac amodau, sy'n berthnasol i'r gwasanaethau a ddarparwn a'n gwefannau.

Polisi ar gysylltu

Ein polisi ar gysylltu â'r wefan hon ac oddi yno.

Cysylltu â'r wefan hon

Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gysylltu â'r wybodaeth a gedwir ar y tudalennau hyn, ac nid oes rhaid i chi ofyn caniatâd i gysylltu â'n gwefan. Fodd bynnag, ni ddylech awgrymu bod eich gwefan na'ch cynnwys yn gysylltiedig â'r Rheoleiddiwr Pensiynau nac wedi'i gymeradwyo ganddo.

Cysylltu o'r wefan hon

Rydym yn dewis cysylltu â gwefannau allanol am y rhesymau canlynol:

  • mae'n wasanaeth neu'n wefan y llywodraeth
  • dim ond drwy ddefnyddio gwefan trydydd parti y gallwch gwblhau tasg, e.e. dewis cynllun pensiwn
  • am ragor o wybodaeth neu gyngor na allwn neu nad ydym yn ei darparu

Mae ein gwefan yn cynnig dolenni i wefannau eraill – maent yn eich galluogi i adael gwefan TPR. Nid ydym yn rheoli'r gwefannau cysylltiedig ac nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys, ac eithrio:

  • thepensionsregulator.gov.uk
  • exchange.thepensionsregulator.gov.uk
  • trusteetoolkit.thepensionsregulator.gov.uk
  • education.thepensionsregulator.gov.uk
  • autoenrol.tpr.gov.uk
  • review.tpr.gov.uk
  • help.thepensionsregulator.gov.uk
  • automation.thepensionsregulator.gov.uk
  • blog.thepensionsregulator.gov.uk

Rydym yn darparu'r dolenni hyn i chi fel cyfleuster yn unig, ac nid yw cynnwys unrhyw ddolen yn awgrymu ein bod yn cymeradwyo'r wefan nac yn hyrwyddo unrhyw sefydliad arall, neu eu cynnyrch, gwasanaethau, nodau masnach, gweithgareddau neu farn.

Nid ydym yn derbyn cyflwyniadau na cheisiadau am ddolenni i wefannau allanol. Mae ein hymchwil yn seiliedig ar dermau chwilio ac rydym yn cynnal gwerthusiadau annibynnol o wefannau sydd ar gael i boblogi ein hawgrymiadau cyswllt allanol.

Mae'r holl ddolenni o'n gwefannau yn berthnasol yn olygyddol i'r dudalen y maent yn cysylltu ohoni ac yn addas ar gyfer y gynulleidfa debygol. Mae dolenni allanol yn cael eu hadolygu a'u hamrywio'n barhaus, yn ôl perthnasedd golygyddol.

Os byddwch yn dod o hyd i ddolenni allanol sydd wedi torri, yn hen ffasiwn neu'n amhriodol, gallwch roi gwybod i ni am y rhain, drwy ein ffurflen adborth ar y dudalen, fel y gallwn eu gwirio, eu diweddaru, eu disodli neu eu dileu.

Ni fyddwn fel arfer yn cysylltu â safleoedd nad ydynt yn rhad ac am ddim. Ni fyddwn yn cysylltu â safleoedd allanol yn gyfnewid am roddion nac unrhyw ystyriaeth arall mewn nwyddau. Gall rhai o'n dolenni allanol gyfeirio at wefannau sy'n cynnig gwasanaethau masnachol, megis cyrsiau hyfforddi, ond nid ydym yn cysylltu'n uniongyrchol â thudalennau masnachol oni bai ei fod yn ddefnyddiol i'r defnyddiwr yng nghyd-destun eu hymweliad â'n gwefan.

Os ydym yn rhoi cyngor neu wybodaeth gyffredinol am y pwnc ac yn dymuno cyfeirio at sefydliad a bod amrywiaeth o sefydliadau'n gweithio yn y maes, rydym fel arfer yn cysylltu â'r sefydliadau arwyddocaol eraill sy'n gweithio yn y maes hefyd.

Byddwn yn ystyried addasrwydd cysylltu â safleoedd eraill o ran eu polisïau hygyrchedd, preifatrwydd a GDPR.

Cydnawsedd caledwedd a meddalwedd

Nid ydym yn gwarantu y bydd y wefan hon yn gydnaws â'r holl galedwedd a meddalwedd y gallwch eu defnyddio neu y bydd y wefan hon ar gael drwy'r amser neu ar unrhyw adeg benodol.

Diogelu rhag feirysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o'r broses gynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrth-feirws ar yr holl ddeunydd a gaiff ei lawrlwytho o'r rhyngrwyd.

Cofrestru ar gyfer ein gwasanaethau ar-lein

I gofrestru ar gyfer ein gwasanaethau ar-lein rhaid i chi roi cyfeiriad e-bost gweithredol a chyfrinair i ni. Rydych chi'n cytuno i gadw eich cyfrinair yn gyfrinachol ac yn ddiogel.

Efallai y bydd eich defnydd o'r gwasanaethau yn gofyn i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost eich hun a chyfeiriadau e-bost ar gyfer ac ar ran ymddiriedolwyr / rheolwyr, cysylltiadau dychwelyd cynllun ac eraill. Wrth wneud hynny, rydych yn cadarnhau eich parodrwydd eich hun i dderbyn rhybuddion, hysbysiadau a dogfennau eraill yn electronig a dylech sicrhau bod y rhai hynny y mae eu cyfeiriadau e-bost yr ydych yn eu darparu hefyd yn barod i dderbyn rhybuddion, hysbysiadau a dogfennau eraill gan TPR yn electronig.

Fodd bynnag, os ydych yn defnyddio cyfeiriad e-bost y gall nifer o ddefnyddwyr ei gyrchu, mae'r rhai sydd â mynediad i'r cyfeiriad e-bost a'r cyfrinair hwnnw yn gyfrifol ar y cyd am gadw'r manylion cofrestru'n ddiogel.

Dyma'r gwasanaethau:

  • Cyfnewid: gwasanaeth sy'n eich galluogi i weld gwybodaeth ar-lein (gwybodaeth am y cynllun ac anfonebau Lefi), i anfon gwybodaeth yn electronig (ffurflenni cynllun a chywiriadau i wybodaeth am y cynllun), i ddweud wrthym am unrhyw fethiannau talu perthnasol ar gyfer cynlluniau cyfraniadau diffiniedig (cynnal cyfraniadau) ac i dderbyn gwybodaeth yn electronig gan TPR (cyflwyno anfonebau lefi i gysylltiadau dynodedig a hysbysiad dychwelyd y cynllun).
  • Pyrth addysg: gwasanaethau sy'n darparu dysgu ar-lein i ymddiriedolwyr ac eraill i gynyddu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o bensiynau.
  • Datganiad cydymffurfio cofrestru awtomatig: gwasanaeth sy'n caniatáu i gyflogwyr gwblhau'r datganiad gofynnol gyda TPR pan ydynt wedi cofrestru gweithwyr penodol yn awtomatig mewn cynllun pensiwn.
  • Ceisiadau am apwyntiadau ymddiriedolwyr: gwasanaeth ar-lein ar gyfer cyflwyno ceisiadau am apwyntiad ymddiriedolwr o dan adran 7(3)(b) o Ddeddf Pensiynau 1995.

Cofrestru am Gyfnewid

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Cyfnewid rydych yn cytuno i ddarparu eich enw, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn. Rydych hefyd yn cytuno i gyflwyno nifer o gwestiynau diogelwch ag atebion.

Efallai y bydd eich defnydd o'r gwasanaethau yn gofyn i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost eich hun a chyfeiriadau e-bost ar gyfer ac ar ran ymddiriedolwyr / rheolwyr, cysylltiadau dychwelyd cynllun ac eraill. IWrth wneud hynny, rydych yn cadarnhau eich parodrwydd eich hun i dderbyn rhybuddion, hysbysiadau a dogfennau eraill yn electronig a dylech sicrhau bod y rhai y mae eu cyfeiriadau e-bost yr ydych yn eu darparu hefyd yn barod i dderbyn hysbysiadau, hysbysiadau a dogfennau eraill gan TPR yn electronig.

Gallwch newid unrhyw un o'ch fmnylion cofrestru defnyddiwr. Gallwch hefyd ofyn am gael eich tynnu fel defnyddiwr.

Os oes angen i chi gyrchu cynllun am y tro cyntaf, bydd angen i chi gysylltu ag ymddiriedolwyr y cynllun a all roi mynediad i chi drwy fewngofnodi i'r cynllun ar Gyfnewid a dewis 'rheoli pwy all gyrchu'r cynllun hwn ar-lein'. Bydd angen eich cyfeiriad e-bost arnynt i gwblhau cysylltiad y cynllun.

Cofrestru am byrth addysg

Pan ydych yn cofrestru ar gyfer y pyrth addysg, gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth sy'n cynnwys eich enw, y math o ymddiriedolwr ydych chi (os ydych yn ymddiriedolwr), eich rôl os nad ydych yn ymddiriedolwr, y math o gynllun a chyfeiriad e-bost.

Mae'r wybodaeth hon yn caniatáu i ni ddarparu cofnod datblygu i chi a bydd yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatganiadau o'r rhaglen e-ddysgu yn y dyfodol ac yn eich annog i gwblhau'r rhaglen ddysgu.

Datganiad cydymffurfio cofrestru awtomatig

Pan ydych yn cofrestru ar gyfer datganiad cofrestru awtomatig gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth sy'n cynnwys eich enw, manylion cyswllt, eich cod fel y'i darperir i chi gan TPR a manylion sy'n ymwneud â'ch cwmni.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd angen i chi ei ddarparu ewch i datganiad cydymffurfiaeth am gofrestru awtomatig.

Ceisiadau am apwyntiadau ymddiriedolwyr

Pan ydych yn defnyddio'r gwasanaeth ceisiadau am apwyntiad ymddiriedolwr, gofynnir i chi nodi manylion aelodau a / neu drydydd parti yn ogystal â gwybodaeth sy'n ymwneud â'r cynllun a'r cwmni y mae'r cais yn ymwneud ag ef.

Amrywiad i delerau ac amodau

Drwy dderbyn y telerau ac amodau hyn rydych yn cytuno y gallwn:

  • Defnyddio'r gwasanaethau ar gyfer unrhyw ran o'n busnes gyda chi mewn perthynas ag unrhyw un o'r gwasanaethau rydych wedi cofrestru ar eu cyfer.
  • Newid, tynnu'n ôl neu ychwanegu at y gwasanaethau a'r wefan (neu eu nodweddion) neu newid y ffordd y gallwch gyrchu'r gwasanaethau, i gyd heb rybudd.
  • Diwygio'r telerau ac amodau hyn o bryd i'w gilydd wrth i ni ddatblygu'r gwasanaeth. Fe'ch hysbysir o unrhyw newidiadau drwy'r cyfeiriad e-bost a ddarperir wrth gofrestru neu drwy hysbysiad ar ein gwefan. Bydd y newidiadau'n berthnasol i'r defnydd o'n gwefan a'n gwasanaethau ar ôl i ni roi rhybudd.

Os nad ydych yn dymuno derbyn y telerau ac amodau newydd, ni ddylech barhau i ddefnyddio'r gwasanaethau. Os byddwch yn parhau i ddefnyddio'r gwasanaethau ar ôl y dyddiad y daw'r newid i rym, mae eich defnydd o'r gwasanaethau yn dangos eich bod yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau ac amodau newydd.

Gallwch weld ein telerau ac amodau ar unrhyw adeg drwy ddewis y ddolen 'telerau ac amodau' ar ein gwefan.

Cyswllt rhyngoch chi a TPR

Byddwn fel arfer yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost i gyfathrebu â chi. Fel arall, efallai y byddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio eich cyfeiriad post a'ch rhif ffôn.

Sylwch nad yw anfon gwybodaeth drwy e-bost yn ddiogel a'i bod yn cael ei gwneud ar eich menter eich hun.

Hawlfraint ac eiddo deallusol

Mae'r gwasanaethau a'r wefan a'r holl ddeunyddiau sydd ynddi yn cael eu diogelu gan hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys hawlfraint, ac maent naill ai'n perthyn i'r rheoleiddiwr neu wedi'u trwyddedu iddo i'w defnyddio. Mae deunyddiau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y dyluniad, cynllun, golwg, ymddangosiad, graffeg a dogfennau ar y wefan, yn ogystal â chynnwys arall.

Rydym wedi sicrhau bod y gwasanaethau a'r wefan ar gael i chi at eich defnydd anfasnachol personol eich hun. Gallwn addasu, tynnu'n ôl neu wrthod mynediad i'r wefan hon ar unrhyw adeg.

Dylai unrhyw ddefnydd o ddeunyddiau ar y wefan hon, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i atgynhyrchu at unrhyw ddiben ac addasu, dosbarthu neu ail-gyhoeddi, gydnabod y rheoleiddiwr fel y ffynhonnell a bydd yn ddarostyngedig i hawliau eiddo deallusol sy'n gysylltiedig â deunyddiau o'r fath.

Mae'r pyrth addysg – y wybodaeth a ddarperir mewn modiwlau, tiwtorialau ac adnoddau dysgu eraill ar y wefan hon yn cael eu darparu fel offeryn addysgol yn unig.

Atebolrwydd

Er bod pob ymdrech yn cael ei gwneud gan y rheoleiddiwr (a'i isgontractwyr awdurdodedig) i gadw gwybodaeth ddiogel a gyflwynir i chi, rydych yn derbyn y risg y gall data a drosglwyddir yn electronig drwy'r wefan hon neu fel arall gael eu cyfnewid cyn cyrraedd eu cyrchfan arfaethedig neu eu cyrchu gan drydydd partïon anawdurdodedig ac y gall partïon o'r fath fanteisio arnynt yn anghyfreithlon.

Nid ydym yn atebol am unrhyw niwed, colled neu ddifrod, sut bynnag y'i achosir, a achosir i chi drwy ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.

Polisïau cyfryngau cymdeithasol

Polisi Facebook

Rydym wedi creu ein tudalen Facebook i chi 'hoffi' a thrafod pynciau sy'n ymwneud â rheoleiddio cynlluniau pensiwn seiliedig ar waith yn y DU.

Rydym yn annog trafodaeth rhwng ein dilynwyr ond efallai na fyddwn yn gallu darparu ymatebion unigol drwy Facebook. Efallai y bydd rhai ymholiadau'n cael eu dargyfeirio i'n sianeli ymateb pwrpasol, er enghraifft, ar gyfer ymholiadau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Caiff trafodaethau eu monitro gan ein rheolwyr tudalennau Facebook a gallant gyfeirio ymholiad drwy sianeli cyfathrebu sy'n bodoli eisoes lle bo hynny'n briodol.

Nid ydym yn annog nac yn cymeradwyo unrhyw hyrwyddiadau masnachol na thrydydd parti sy'n ymddangos ar ein tudalen Facebook.

Argaeledd Facebook

Byddwn yn diweddaru ac yn monitro ein tudalen Facebook yn ystod oriau swyddfa, 9am i 5.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae Facebook yn cael ei weithredu a'i gynnal gan Facebook, corfforaeth trydydd parti annibynnol. Nid yw TPR yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiffyg neu ymyriadau i wasanaeth neu anawsterau technegol eraill sy'n codi oherwydd amser segur Facebook ei hun.

Ein telerau aelodaeth ar gyfer Facebook

Os ydych yn dewis cysylltu â'n tudalen Facebook gofynnwn i chi gadw at y telerau a restrir isod:

  • parchu defnyddwyr eraill y dudalen
  • aros ar y pwnc a pheidio â phostio cynnwys nad yw'n gysylltiedig â diben y dudalen hon
  • peidio â defnyddio iaith sy'n sarhaus, yn ymfflamychol neu'n bryfoclyd
  • peidio â phostio deunydd os ydych yn gwybod neu'n amau y gallai gwneud hynny dorri'r gyfraith
  • peidio â chofrestru mwy nag un cyfrif defnyddiwr y pen
  • peidio â dynwared neu'n honni ar gam eich bod yn cynrychioli person neu sefydliad
  • peidio â cheisio mewngofnodi gan ddefnyddio cyfrif person arall
  • rhowch gyflwyniadau gonest a chywir (peidiwch â rhoi cyflwyniadau lle nad ydych yn siŵr o'u gonestrwydd neu eu cywirdeb ffeithiol)
  • peidio â gwneud unrhyw gymeradwyaeth fasnachol na hyrwyddo unrhyw gynnyrch, gwasanaeth neu gyhoeddiad

Os na fyddwch yn cadw at hyn, bydd eich postiadau'n cael eu dileu a gallai olygu bod eich mynediad i'n tudalennau yn cael ei rwystro.

Polisi Twitter

Rheolir cyfrif Twitter @TPRgovuk gan y tîm marchnata digidol, ar ran cydweithwyr ar draws TPR. Mae'r wybodaeth a ddarparwn ar gyfer canllawiau yn unig ac ni ddylid ei hystyried yn ddehongliad diffiniol o'r gyfraith.

Efallai y byddwn yn defnyddio rhywfaint o awtomeiddio (fel offer sy'n cynhyrchu trydariadau o ffrydiau RSS). Os ydych yn ein dilyn, gallwch ddisgwyl rhwng pump a deg trydariad y dydd yn cwmpasu'r canlynol:

  • rhybuddion am gynnwys newydd ar ein gwefan (gan gynnwys diweddariadau i godau a chanllawiau)
  • gwybodaeth am drefniadau siaradwyr allweddol
  • presenoldeb mewn digwyddiadau, datganiadau i'r wasg, postiadau blogiau

Dilyn

Mae adolygu ein rhestr ddilynwyr yn gyfyngedig. Efallai y byddwn yn dilyn cyfrifon yn ôl yn awtomatig pan nad ydynt yn sbam. Nid yw cael eich dilyn yn ôl yn cael ei gymeradwyo o unrhyw fath, ac nid yw'n awgrymu hynny.

Argaeledd Twitter

Byddwn yn diweddaru ac yn monitro ein cyfrif Twitter yn ystod oriau swyddfa 9am – 5.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Efallai na fydd Twitter ar gael o bryd i'w gilydd ac nid yw TPR yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiffyg neu ymyriadau i wasanaeth neu anawsterau technegol eraill sy'n codi oherwydd unrhyw gyfnod o amser segur Twitter.

@replies a negeseuon uniongyrchol

Rydym yn croesawu adborth a syniadau gan ein holl ddilynwyr ond efallai na fyddwn yn gallu ymateb yn unigol i'r negeseuon a dderbyniwn drwy Twitter.

Mae'r tîm cyfryngau digidol yn darllen yr holl @replies a negeseuon uniongyrchol ac yn sicrhau bod unrhyw themâu sy'n dod i'r amlwg neu awgrymiadau defnyddiol yn cael eu trosglwyddo i'r timau perthnasol o fewn TPR.

Ni allwn gymryd rhan mewn materion sydd y tu allan i gylch gwaith statudol TPR nac ymateb i gwestiynau neu sylwadau lle byddai'n amhriodol i TPR fel awdurdod cyhoeddus wneud hynny.

Efallai y byddwn yn cynnal sesiynau holi ac ateb Twitter (Holi ac Ateb) i helpu i ateb cwestiynau'r diwydiant. Yn ystod y sesiynau hyn, ni fyddwn yn ymateb i gwestiynau sydd oddi ar y pwnc sy'n cael ei drafod ac ni fyddwn yn ymgysylltu ag unrhyw bersonau sy'n defnyddio'r sesiynau hyn i dargedu TPR gyda datganiadau neu gwestiynau y mae TPR yn eu hystyried yn amhriodol. Bydd unrhyw gyfrifon sy'n defnyddio'r sesiwn Holi ac Ateb i gyfeirio sylwadau sarhaus at TPR yn cael eu rhwystro a'u riportio.

Manylir ar y ffyrdd arferol o gysylltu â TPR ar gyfer gohebiaeth swyddogol a'r ymholiadau hynny sydd angen ymateb yn cysylltwch â ni.